Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 13 Mai 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 10.54 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar AC (Cadeirydd) William Graham AC Julie Morgan AC Alun Ffred Jones AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Sandy Mewies AC Gwyn R Price AC (yn lle Mike Hedges AC) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
John Dwight, Swyddfa Archwilio Cymru Delyth Jones, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Marie Rosenthal, Cyngor Caerdydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Meriel Singleton (Ail Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges. Roedd Gwyn Price yn dirprwyo ar ei ran.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Nodwyd y papurau.
3 Cyflogau Uwch-reolwyr: Sesiwn dystiolaeth 6
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth am gyflogau uwch-reolwyr gan Marie Rosenthal, Clerc Sirol a Swyddog Monitro, Cyngor Caerdydd a Delyth Jones, Pennaeth y Gyfraith a Llywodraethu a Swyddog Monitro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
3.2 Gofynnodd y Pwyllgor i'r Clercod gael eglurhad o reoliadau newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer aelodau etholedig.
3.3 Cytunodd Delyth Jones i anfon rhagor o wybodaeth am aelodau trawsbleidiol yr is-bwyllgor cyflogaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Cyflogau Uwch-reolwyr: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Rheoli Cyflyrau Cronig: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i'w gyfeirio at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
7 Strategaeth leoli Llywodraeth Cymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a chytunwyd i ymateb yn gofyn am ragor o ymatebion i'r argymhellion a geir yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.